Am fwy o fanylion ffôniwch 01654 703911 | ||
Cyflwyniad
i Gyfrifiaduron |
Hanfodion TG
Rhan 1 Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cwrs dechreuwyr, ac sydd am ymestyn eu gwybodaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio’r prosesydd geiriau, y rhyngrwyd ac e-bost at lefel ganolradd. Bydd angen gwneud y cwrs “Cyflwyniad i Gyfrifiaduron” neu gael profiad tebyg cyn gwneud y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr sy’n astudio modylau ECDL 3 a 7 yn gweld y cwrs hwn yn hynod ddefnyddiol. £55 (£45): 10 Credyd: Lefel 0
| |
|
Hanfodion TG
Rhan 2 Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cwrs dechreuwyr, ac sydd am ymestyn eu gwybodaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gynllunio a defnyddio taenlenni a chronfeydd data hyd at lefel ganolradd. Bydd angen gwneud y cwrs “Cyflwyniad i Gyfrifiaduron” neu gael profiad tebyg cyn gwneud y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr sy’n astudio modylau ECDL 4 a 5 yn gweld y cwrs hwn yn hynod ddefnyddiol. £55 (£45): 10 Credyd: Lefel 0 |
Hanfodion TG Rhan 3 Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cwrs dechreuwyr, ac sydd am ymestyn eu gwybodaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i reoli eu cyfrifiadur a’u ffeiliau, dysgu am syniadaethau TG sylfaenol a medru cynllunio a chynhyrchu arddangosfeydd sleidiau ar y cyfrifiadur. Bydd angen gwneud y cwrs “Cyflwyniad i Gyfrifiaduron” neu gael profiad tebyg cyn gwneud y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr sy’n astudio modylau ECDL 1, 2 a 7 yn gweld y cwrs hwn yn hynod ddefnyddiol. £55 (£45): 10 Credyd: Lefel 0 | |
|
Cyflwyniad i
Gronfeydd Data Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno Microsoft® Access i’r myfyrwyr, y rhaglen cronfeydd data a ddefnyddir fwyaf. Mae’r cwrs yn cynnwys yr holl agweddau sylfaenol, o greu tablau syml i ysgrifennu ymholiadau a chynllunio ffurflenni ac adroddiadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i storio, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol a phroffesiynol. Medru defnyddio meddalwedd cronfeydd data yw un o’r sgiliau mwyaf defnyddiol yn y gweithle heddiw. £55 (£45): 10 Credyd: Lefel 1 |
Ymestyn
Cronfeydd Data Parhad yw hwn o’r cwrs Cyflwyniad i Gronfeydd Data, gan weithio ar nodweddion estynedig Microsoft® Access, megis tablau perthynol, is-ffurfiau, botymau rheoli, macros, dulliau cyfrifo a phethau eraill o fewn y blwch offer. Bydd cyfle i wneud rhywfaint o waith annibynnol yn ystod y cwrs hwn i alluogi i fyfyrwyr roi eu sgiliau newydd ar waith yn ymarferol. Bydd angen gwneud y cwrs Cyflwyniad i Gronfeydd Data neu Hanfodion TG Rhan 1 cyn gwneud y cwrs hwn. £55(£45): 10 Credyd: Lefel 1. Tymor y gwanwyn yn unig. | |
|
Cyflwyniad
i’r Rhyngrwyd Mae cael y gorau o’r rhyngrwyd yn dasg anodd, ond bydd y cwrs hwn yn galluogi i fyfyrwyr ymestyn eu gwybodaeth a’u sgiliau cyfathrebu, gan ddysgu sut i wneud trwy ddefnyddio dulliau effeithiol. Beth bynnag fo diddordebau’r myfyrwyr; academaidd, proffesiynol, busnes neu bersonol, bydd y cwrs hwn o fantais, gan y bydd cyfle i astudio’n annibynnol dan arweiniad tiwtor y cwrs. £55(£45): 10 Credyd: Lefel 1 |
Cyflwyniad i
Gynllunio Gwefannau Cwrs ymarferol yw hwn sy’n astudio hanfodion cynllunio tudalennau gwe a gwefannau. Bydd myfyrwyr yn cychwyn trwy ddysgu hanfodion HTML, ac yna’n dysgu am Microsoft® FrontPage am y rhan fwyaf o’r cwrs. Y cwbl sydd ei angen yw gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron – pori ar y we yn benodol, prosesu geiriau a chyhoeddi pen desg. Wedi gorffen y cwrs, bydd gan y myfyrwyr yr hyder i gynllunio a chynhyrchu gwefannau effeithiol. £55(£45): 10 Credyd: Lefel 1 | |
|
Mae gostyngiadau ar gael Ffoniwch 01654 703911 am fwy o fanylion ac i gael yr amseroedd. | ||
|
Ffioedd Cyrsiau: 10 sesiwn: £55.00 Consesiynau ar gael Sesiwn yn hwyr dydd Iau 6.00 - 8.00 pm |
||